Philip Massinger
Philip Massinger | |
---|---|
Ganwyd | 1583 Caersallog |
Bu farw | 17 Mawrth 1640 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd, llenor |
Tad | Arthur Massinger |
Dramodydd o Loegr oedd Philip Massinger (1583 – Mawrth 1640) a flodeuai yn oes theatr Iago a Siarl. Nodweddir ei gomedïau gan adeiledd ei blotiau, realaeth gymdeithasol, a dychan.
Ganed yng Nghaersallog, Wiltshire, yn Nheyrnas Lloegr, a fe'i bedyddiwyd yn Eglwys Sant Tomos. Astudiodd yn Neuadd Sant Alban (bellach yn rhan o Goleg Merton) yn Rhydychen ym 1602. Nid oes unrhyw fanylion arall am ei fywyd nes iddo gael ei anfon i garchar dyledwyr ym 1613. Aeth y rheolwr theatr Philip Henslowe yn feichiau drosto a threuliodd Massinger gyfnod yn cynorthwyo dramodwyr eraill, gan gynnwys Thomas Dekker a John Fletcher. Ym 1625 fe olynydd Fletcher yn brif ddramodydd y King's Men, a gweithiodd gyda'r cwmni hwnnw hyd at ddiwedd ei oes. Bu farw tua 56 oed yn Llundain.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Philip Massinger. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Medi 2020.